Mae cryn dipyn o ganu corawl cain i gael yng Nghymru ac mae aelodau'r Camerata Cymreig yn ymfalchïo mewn bod yn rhan o'r traddodiad hwnnw. Côr bach ydyn ni a chennym oddeutu 25 o gantorion. Yr hyn sydd yn ein gwneud ni'n wahanol yw'r ffaith ein bod ni'n arbenigo mewn perfformio cerddoriaeth gynnar gan ddilyn dulliau'r oes. Wrth gerddoriaeth gynnar golygir cerddoriaeth a gyfansoddwyd yn yr 18fed ganrif neu'n gynt (er ein bod ni o bryd i'w gilydd yn mentro i gyfnodau hwyrach!). Yn yr ymdrech hon, buom yn ffodus i gael fel ein cyfarwyddwr cyntaf Andrew Wilson-Dickson, ac yntau gynt yn bennaeth cerddoriaeth gynnar yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae dulliau perfformio wedi esblygu dros y canrifoedd ac yn aml mae canu cerddoriaeth gynnar yn gofyn am ddulliau tra wahanol i'r arfer. Mae ein harbenigedd wedi ein harwain at ddarganfod campweithiau coll o gyfnod hynod o gyfoethog. Mae'n bosibl iawn taw dyma'r tro cyntaf erioed i ambell ddarn gael ei berfformio yng Nghymru. Yn aml, cawn ni'r cyfle i berfformio gydag offerynwyr cerddoriaeth gynnar, gan cynnwys y Gerddorfa Baroc Gymreig. Yn 2016, perfformion ni am y tro cyntaf ail-gread y Dioddefaint yn ô l Sant Marc gan ein cyfarwyddwr, Andrew Wilson-Dickson, a ennoddd gryn ganmoliaeth. Cafodd yr ail-gread yma ei gynoeddi gan Canasg. Gyda phenodiad ein cyfarwyddwr newydd, Frederick Brown, o fis Medi 2024 rydym yn edrych ymlaen at gyfnod newydd cyffrous ym mywyd y côr.
Frederick Brown
Mae Frederick Brown yn arweinydd a chwaraewr bysellfwrdd o Gernyw. Dechreuodd ei hyfforddiant cerddorol fel aelod o gôr Eglwys Gadeiriol Truro cyn ddarllen cerddoriaeth yng Ngholeg St Catharine, Caergrawnt. Aeth ymlaen i astudio cyfeiliant piano ac arweinyddiaeth yn yr Academi Gerdd Frenhinol, cyn gwblhau ei hyfforddiant yn y Stiwdio Opera Genedlaethol. Mae gan Frederick brofiad eang mewn arwain corau, wedi iddo weithio gyda Chymdeithas Corawl Twickenham a Chôr Siambr Lloegr. Roedd yn sylfaenydd a chyfarwyddwr Brouwen, ensemble baróc llinynnol a lleisiol. Gweithiodd fel répétiteur yn Opera Gwladwriaethol Hamburg ac yn 2018 ymunodd â staff cerdd Opera Cenedlaethol Cymru yng Nghaerdydd, lle mae bellach yn gor-feistr. Ar gyfer WNO mae wedi cynnal perfformiadau a chyngherddau opera ac mae hefyd yn dysgu yng Ngholeg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru. Dechreuodd Frederick ei swydd fel cyfarwyddwr côr cerdd gynnar y Camerata Cymreig yn 2024.
Dros y blynyddoedd mae'r Camerata Cymreig wedi gronni llyfrgell o sgoriau sydd ar gael i'w hurio ar gyfraddau teg ar gyfer corau eraill. Gwasgwch YMA i weld y sgoriau sydd ar gael ar hyn o bryd.