◼ hafan ◼ amdanom ◼ cyngherddau ◼ aelodau ◼ gwrando ar y côr ◼ sgoriau ar log/werth ◼ cysylltu ◼ dyn ni'nb ricriwtio! welsh
 
Welsh Camerata Cymreig

Côr cerdd gynnar Cymru

The Welsh Camerata celebrating 20 years of song

Y Camerata Cymreig

Mae cryn dipyn o ganu corawl cain i gael yng Nghymru ac mae aelodau'r Camerata Cymreig yn ymfalchïo mewn bod yn rhan o'r traddodiad hwnnw. Côr bach ydyn ni a chennym oddeutu 25 o gantorion. Yr hyn sydd yn ein gwneud ni'n wahanol yw'r ffaith ein bod ni'n arbenigo mewn perfformio cerddoriaeth gynnar gan ddilyn dulliau'r oes. Wrth gerddoriaeth gynnar golygir cerddoriaeth a gyfansoddwyd yn yr 18fed ganrif neu'n gynt (er ein bod ni o bryd i'w gilydd yn mentro i gyfnodau hwyrach!). Braint yw bod gennym fel arweinydd Andrew Wilson-Dickson, ac yntau gynt yn bennaeth cerddoriaeth gynnar yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae dulliau perfformio wedi esblygu dros y canrifoedd ac yn aml mae canu cerddoriaeth gynnar yn gofyn am ddulliau tra wahanol i'r arfer. Mae ein harbenigedd wedi ein harwain at ddarganfod campweithiau coll o gyfnod hynod o gyfoethog. Mae'n bosibl iawn taw dyma'r tro cyntaf erioed i ambell ddarn gael ei berfformio yng Nghymru. Yn aml, cawn ni'r cyfle i berfformio gydag offerynwyr cerddoriaeth gynnar, gan cynnwys y Gerddorfa Baroc Gymreig. Yn 2016, perfformion ni am y tro cyntaf ail-gread y Dioddefaint yn ô l Sant Marc gan ein cyfarwyddwr, Andrew Wilson-Dickson, a ennoddd gryn ganmoliaeth. Cafodd yr ail-gread yma ei gynoeddi gan Canasg.

Andrew Wilson-Dickson


Andrew Wilson-Dickson

Ein cyfarwyddwr

Mae'r Camerata Cymreig yn chwilio am gyfarwyddwr cerddorol newydd! Mae Andrew Wilson-Dickson wedi bod yn gyfarwyddwr ysbydol i ni ers sefydlu'r côr, ac erbyn hyn mae fe am drosglwyddau'r awenau at rywun sydd â'r un ymrwymiad at safonau rhagoriaeth mewn perfformio cerddoriaeth gynnar. Os credwch chi y gallech chi fod yn addas at y swydd, os gwelwch yn dda ewch i'r disgrifiad swydd a leolir yma .

Sgoriau ar log

Dros y blynyddoedd mae'r Camerata Cymreig wedi gronni llyfrgell o sgoriau sydd ar gael i'w hurio ar gyfraddau teg ar gyfer corau eraill. Gwasgwch YMA i weld y sgoriau sydd ar gael ar hyn o bryd.

concerts

Ein perfformiad nesaf

29ain Mehefin 2024 'Cyngerdd Dathlu', Eglwys Santes Fair yr Angylion , Talbot St, Treganna CF11 9BX [Gwasgwch yma i brynu tocynnau.]

Ymhellach ymlaen...

Dim digwyddiad ar hyn o bryd.

Cyngherddau a fu...

Concert 1
Concert 1
Concert 1
Concert 1
Gweld pob un

members

Aelodau'r côr

Director:
Andrew Wilson-Dickson
Sopranos:
Tessa Davies
Marja Flipse
Natasha Gauthier
Frances Hales
Myra Harris
Lucianna Harrison
Beatrice Pearce
Lucy Robinson
Chris Snow
Eli Williams
Altos:
Rachel Davies
Alison Gibbons
Viv Goldberg
Liz Haigh
Lindsey Jackson
Leila Kermani
Christina Macaulay
Tenors:
Jeremy Badcock
Mark Bishop
Tim Down
Tim Pearce
Basses:
Geoff Ballinger
Gareth Henson
Chris Holmquist
Duncan Ingrams
James Lewis
Harry Woodman
Mewngofnodi aelodau:
contact

Cysylltu â ni

Fel arfer, rydyn ni'n ymarfer nos Fawrth am 7.30yh yn Eglwys Gyfanol Treganna ar gornel Cowbridge Road East a Theobald Road CF5 1LR.

Os dych chi am gael clyweliad i ganu yn y côr, cwblhewch gymaint o'r ffurflen gais hon ag y gallwch chi os gwelwch yn dda, a gwasgu ANFON. Byddwn ni'n cysylltu â chi i bennu dyddiad cyd-addas ar gyfer y clyweliad.

Ble rydyn ni'n ymarfer


Venue location

Os am ein holi ni'n gyffredinol, defnyddiwch y ffurflen yma os gwelwch yn dda:

Mewnbynnwch y llythrennau (mawr a bach) a'r rhifau a ddangosir isod wedyn gwasgwch 'anfon'
7KedrLA